Welsh

Recorded by Lili Walford

 

Londinium

Gostyngwch eich clust i’r ddaear
a chlywch alwadau cnawd yn cynrhoni,
synau gwaith y gôf a’r olwynydd,
troi a thynnu’r gwneuthurydd rhafau.
Bydd eich llygaid yn llosgi gan arogl
mwg y tanwydd, ac yn colli dagrau
dan effaith amonia o’r bishladd chwyslyd.

Yn ddwfn o dan hyn oll fe rhed
nod dialedd Bwdica
yn y dafell goch denau o haearn llosg;
sy’n gorwedd rhwng llinellau o glai a lludw
y cyfan wedi eu cywasgu, rhwng cerrig – a llechi
pren, olion hen dân ac esgyrn.

Yn awr wedi ei cywasgu gan ogledd a de
oddifewn i’w lleidiog phyrth;
bu’r afon unwaith yn cynnal y Neanderthal,
Homo Sapiens a’r crwydwyr unig
fu’n glynnu wrth ei glannau am hanner miliwn o flynyddoedd.

Y trigfan cyntaf 15,000 o flynyddoedd –yn ôl,
yn awr yn ddinas o dafodieithoedd di-ri
yn mabwysiadu oll a ddeuant –
helwyr, amaethwyr, a’r digartref.

Translated by John Rees
© Anthony Fisher March 2016

LONDINIUM_SET_GREECEWelsh